Barn Article

Gallai cario enw dau eicon o fyd cerddoriaeth fod yn dipyn o faich. Un yn grŵp gwerin eithriadol o boblogaidd o’r  Alban, a’r llall yn enw canwr cyfoes blaenllaw o Gymru. Ond nid yw hynny fel petai yn mennu rhyw lawer ar Corrie Chiswell, ac nid yw ychwaith yn amlwg iawn yn ei gwaith.

Er hynny, llun merch yn cario mynydd o faich a enillodd iddi’r ail le yng nghystadleuaeth Gwobr Portread Cymru 2008, ac mae’r ddelwedd hon yn cael ei chyfleu mewn llun arall o’i heiddo, sef ‘Yr Atgof’, sy’n cael ei ddangos yn yr arddangosfa ‘Sub Rosa’, yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, ar hyn o bryd.

Beth, felly, yw’r baich hwn, tybed? Mae cwestiynau fel hyn yn siŵr o godi ym meddwl y gwyliedydd wrth edrych ar waith Corrie Chiswell, a hynny am fod ei gwaith yn llawn symboliaeth. Mae hi ei hun yn cyfaddef ei bod yn defnyddio gwyddor o ddelweddau sy’n cynrychioli atgofion a meddyliau, pobl a llefydd. Dyna’r madfall, er enghraifft ­– mae hi’n hoff o fadfallod – a oes arwyddocâd i hwn, sydd ar fin llyfu troed y ferch yn y blwch yn ‘Cuddfan’? Neu’r clustiau cath sydd i’r ferch honno, o dan ei llen ddu? Pam, yn wir, y bocs clawstroffobig yma? Mae’r arlunydd yma, wedi’r cyfan, wedi gosod llawer o’i ffigurau mewn blwch, ac mae’r merched (gan fwyaf) hyn yn anorfod yn cymryd siâp sgwâr y blwch.

‘Bydd pobol yn gweld pob math o bethau yn fy lluniau,’ meddai Corrie, ‘ac yn gofyn beth yw ystyr hyn, neu’r llall.’

Ond y bocs?

‘Dw i’n licio siâp y sgwâr, yn un peth,’ yw’r ateb. ‘Mae rhywbeth yn haniaethol ynddo fe, ac roeddwn i’n paentio llawer o luniau haniaethol ar un adeg – dylanwad fy athrawon yn y coleg, mae’n siŵr. Mae fy ngwaith wedi mynd yn llai haniaethol erbyn hyn – er yn arddullaidd (stylized).’ Ond mae mwy na hynny: ‘Wrth weithio o fewn sgwâr dw i’n gweld y canfas fel twll. Dyw e ddim fel edrych ar dirlun. Mae cefn y peth ryw ddwy droedfedd yn ôl, a dw i’n hoffi hynny. Mae’n swreal, dw i’n gallu creu byd o fewn y blwch.

‘Mae paentio yn rhoi gwir ryddid i mi. Dw i’n gallu creu fy myd fy hun. Mae’r byd y tu allan yn rhywbeth ti ddim yn gallu ei reoli. Ond mae byd paent yn lle saff, ti yn gallu ei reoli. Mae’n lle saff i wynebu dy ofnau.

‘Ac felly, mae’r blwch yn lle diogel. Mae gen i’r syniad yma o edrych allan o’r blwch, gwylio be sy’n mynd ymlaen y tu allan, ond does neb yn gwybod. Fel y madfall yn gwylio’n dawel, neu gath.

[SinglePic not found]‘Ac mae arwyddocâd arall i’r blwch – mae pobol yn licio penderfynu be wyt ti, pwy wyt ti. Maen nhw’n licio rhoi pawb mewn bocsys. Wel rhyw fath o adwaith ydi hyn i ddisgwyliadau pobol.’

Albanes yw Corrie, merch i Bill Smith, pensaer ac un o aelodau’r grŵp gwerin y Corrie Folk Trio a ddaeth yn boblogaidd yn nechrau’r 60au. Gadawodd ei thad y grŵp pan oedd Corrie tua thair oed, ac fe gafodd hi fagwraeth wledig yn Ucheldiroedd yr Alban gyda’i mam a’i brodyr a’i llystad. Hanai teulu ei mam o ynys Tiree yn y gorllewin, ‘Tir Na Eorna’, y tir islaw’r tonnau. Treuliodd Corrie gyfnodau dedwydd iawn ar yr ynys brydferth honno, gyda’i thraethau gwyn a’i thirlun cwbl foel. Mae ganddi deulu yno o hyd, ac mae rhywun yn synhwyro mai dyma ei gwir gynefin.

‘Mae’r ynys yn dir isel iawn,’ meddai, ‘a dw i’n poeni am effaith cynhesu byd-eang, achos mae’r môr wedi dod mewn dros ran o’r ynys o leia un waith.’

Efallai mai’r pryder yma sy’n brigo yn llawer o’i lluniau, gan fod tirlun yr ynys yn gefnlen yn llawer ohonynt.  ‘Mae’n lle mor agored,’ medd Corrie, ‘ac mae’r awyr fawr yma uwchben – mae rhywun yn mynd i deimlo reit chwil, a’r môr mawr wedyn o’ch cwmpas, chi’n edrych allan ar yr Iwerydd.  Lle iawn i gael agoraphobia! Ond yn lle paentio’r tirlun, mae’r ffigwr yn cymryd drosodd yn fy lluniau, a’r tirlun yn mynd rownd y person yn y llun.’

Llun felly yw ‘Y Tŷ ar y Tywod’,  lle mae’r ferch yn gorwedd ar ei chefn mewn castell tywod. Yn y cefndir mae adeiladau o’r math a welir yn y dwyrain canol, a dywed Corrie fod rhyfel Irac ar ei meddwl pan baentiodd hi’r llun hwn. Mae tywod yn llifo rhwng bysedd y ferch – tywod amser? Pwy a ŵyr. Fel y dywed Corrie, mae llawer o bethau’n  mynd ymlaen yn fan’na!

Un peth sy’n ‘mynd ymlaen’ yna yw’r ffrog las tywyll – ffrog Fictorianaidd oedd yn eiddo i fam-gu Huw ei gŵr. Yn y paentiad ‘Y Gyfrinach’, mae dynes yn dal blwch – ie, blwch eto – gyda golwg ‘cadwch draw!’ ar ei hwyneb. Ac yn ‘Ffrog Mama’ mae Manon, un o ferched bach Huw a Corrie, wedi gwisgo’r ffrog, ac yn sefyll ynddi, ‘fel rhosyn bach ar fin agor’, meddai ei mam.

Y Ty a y Tywod Mae’n werth nodi mai yn Gymraeg y bu’r holl sgwrs rhyngom, mor naturiol â phe buasai’r Gymraeg yn famiaith i Corrie, fel y bydd unrhyw un a wrandawodd ar Beti a’i Phobl ar Radio Cymru y llynedd yn gallu tystio. Ar ei CV o dan ‘Addysg’ y cymhwyster olaf a gafodd yw Lefel-O yn y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Graddiodd o Ysgol Gelf Ruskin, Prifysgol Rhydychen, gan arbenigo mewn paentio. Wedyn treuliodd ddeng mlynedd yn Sydney, Awstralia, gyda dwy flynedd yn Los Angeles rywle yn y canol. Bu’n paentio murluniau yn y ddwy ddinas, ac yn arddangos ei gweithiau celf. Daeth i Gaerdydd yn 1995, a bu’n arddangos yn gyson yng Nghymru ers hynny, gyda bwlch pan oedd hi’n magu Mari a Manon – gwaith oedd wrth ei bodd.

Mae magu plant wedi rhoi syniadau iddi am luniau, hyd yn oed, er nad yn y ffordd ddisgwyliedig. Wrth ddarllen stori Pinocio i’w merched cyn noswylio cafodd ei hun yn meddwl am lun merch fach gyda breichiau doli, ac mae rhywbeth yn peri anesmwythyd yn y llun hwnnw. Dyna ‘Brush with Fate’, wedyn (gyda hen frwsh Mam-gu yn cael lle blaenllaw) – mae’n amlwg mai ar ôl darllen clasur Lewis Carroll y daeth y llun hwn! Ond gan ei bod, ar ei chyfaddefiad ei hun, yn hoff iawn o waith y Swrealiaid, a Balthus yn arbennig, does dim rhyfedd fod cyffyrddiadau swreal yn dod i’w gwaith.

Artistiaid eraill y mae’n hoff ohonynt yw Diego Rivera a’i wraig Freda Kahlo, Picasso, Escher a Paula Rego. Yng ngwaith yr olaf hon mae’r darlun yn dweud stori, ac mae Corrie hithau yn hoff o adeiladu naratif. Dyna i chi’r llun olaf a wnaeth, er enghraifft, a’r paent prin wedi sychu wrth iddo gael ei gludo ymaith i Neuadd Dewi Sant ar gyfer yr arddangosfa – ‘Yr Ymwthiwr’. Yma gwelwn dri o bobl  – ac mae rhywun yn meddwl yn syth am y ménage à trois arferol. Ond na. Yn ôl Corrie, y ferch ifanc o dan y bwrdd, a ddaeth i mewn yn llechwraidd fel cath (gan adael pluen, fel y byddai cath efallai?) yw’r wraig sy’n eistedd ar gadair, ond fersiwn fengach ohoni. Wedi dod i mewn y mae hi i weld sut y mae pethau rhyngddi hi a’i gŵr ar ôl rhai blynyddoedd, beth sy’n mynd ymlaen yn eu bywydau. A’r allwedd ar y wal? Efallai mai rhywbeth fyddai’n agor drysau posibiliadau sydd yma – neu gyfrifoldebau, efallai. Mae dirgelwch yma, yn sicr, ac mae’n cosi’r dychymyg. Ac mae teitl pob llun yn hollbwysig, gan ei fod yn rhan o’r naratif.

[SinglePic not found]‘Dw i’n trio cadw pethau’n syml,’ meddai, ‘Wedyn mae’n bosib i bobol weld be maen nhw eisiau ei weld yn fy ngwaith. Weithiau mi fydda i’n dechrau llun heb wybod yn iawn b’le dw i’n mynd, ac erbyn y diwedd mae pethau annisgwyl wedi dod mewn iddo.’

Mae’n werth syllu’n hir ar ei lluniau, ac nid yn unig ar eu cynnwys. Mae eu harddull yn syfrdanol. Mae ei lluniau du a gwyn wedi eu creu â phensil garbon, ac wedi eu crafu yn gain a gofalus i greu mân farciau gwyn, sef y papur yn dod i’r wyneb. Mae techneg ei phaentiadau olew, wedyn, yn un grefftus dros ben,  a lle mae arddulliau cyfoes ers blynyddoedd lawer wedi dangos llawer o ôl y brwsh, yma mae’n anodd weithiau gweld lle mae un lliw yn diweddu ac un arall yn dechrau, mor gynnil yw ei thriniaeth wrth gyfleu croen, er enghraifft. Dywed Corrie ei bod weithiau’n teimlo fel paentio’n rhydd, ac am wn i fel taflu’r paent ar y canfas, ond fel arall mae’n digwydd: ‘Dyna fy arddull i, mae’n siŵr!’ meddai.

Ac mae’r lliwiau hefyd yn werth sylwi arnynt. Ar ôl dychwelyd o Awstralia roedd ei lluniau yn siriol felyn, fel petasai dylanwad yr haul yn parhau ar ei gwaith, ond erbyn hyn mae ei lliwiau wedi troi braidd yn brudd. Mae hi’n cydnabod ei bod yn gallu gweithio trwy ei theimladau trwy gyfrwng ei chelfyddyd, a chael cysur mawr wrth wneud hynny. Gall hyd yn oed weld ochr ddoniol i’w hofnau, ac mae tipyn o synnwyr digrifwch yn brigo yn ei gwaith.

Cyn ymadael â’i stiwdio caf gipolwg ar fraslun ar y wal – ‘Just a little trip to the seaside’. Mae’n dal fy llygad ac yn gofyn am esboniad  – llun o blentyn yn blentyn yn dal yn sownd mewn castell tywod pigfain, fel petasai ei fywyd yn dibynnu arno, neu – o gofio am fy mhlant fy hun ar ddiwedd pnawn ar lan y môr – ddim eisiau mynd adref?  Trof at Corrie ac mae hithau’n chwerthin.

‘Ie,’ meddai, gyda gwên fach gam, ‘mae’n siŵr fod y llun yna mwy neu lai yn dweud y cyfan!’

Ann Gruffydd Rhys

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn Barn (rhif 556, Mai 2009) a chaiff ei hatgynhyrchu yma gyda chaniatâd deiliaid yr hawlfraint – Ann Gruffydd Rhys (awdur) a Bwrdd Golygyddol Barn.  Cedwir pob hawl.

www.cylchgrawnbarn.com